Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 18 Mawrth 2014 a dydd Mercher 19 Mawrth 2014
Dydd Mawrth 25 Mawrth 2014 a dydd Mercher 26 Mawrth 2014
Dydd Mawrth 1 Ebrill a dydd Mercher 2 Ebrill 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 18 Mawrth 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl: Adroddiad y Grŵp Arbenigol ar Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol (60 munud)
· Dadl: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
· Dadl y Cyfnod Adrodd ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (150 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 19 Mawrth 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleodd Carafannau Gwyliau (Cymru) (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Mawrth 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Polisi am yr Iaith Gymraeg ( 30 munud)
· Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Dadl: Darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (60 munud)
· Dadl: Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â Thai (60 munud)
· Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Addysg (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 26 Mawrth 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - Julie James (Gorllewin Abertawe) (30 munud)
Dydd Mawrth 1 Ebrill 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynnydd o ran Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod ung Nghymru (30 munud)
· Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgor Cynghori Ar Brisio Gwelliannau a Materion Hawliau Tenantiaid) 2014 (15 munud)
· Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru) (60 munud)
· Dadl Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 2 Ebrill 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (15 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr Ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)